Slutsåld
Gwych o beth yw cael cynnyrch y prosiect arloesol hwn yn Gymraeg. Aeth yr awduron ati i gasglu straeon am 100 o ferched arloesol, gan dorrir record am lyfr gwreiddiol a gyllidwyd yn dorfol, a chan gomisiynu gwaith celf gan 60 o artistiaid benywaidd o bedwar ban byd. Cyfieithwyd y llyfr Saesneg gwreiddiol i sawl iaith eisoes, ac maer fersiwn Cymraeg yn Gymreig iawn. Nid yn unig maer Gymraeg yn llifon rhwydd, ond addaswyd peth or cynnwys fel bod y rhedwraig Lowri Morgan yn cymryd lle Margaret Thatcher. Hefyd ceir dyfyniadau pwrpasol Cymraeg gan ferched ar y clawr cadarn. Ond beth am apl y straeon eu hunain? Ceir yma gant o straeon un dudalen yr un o hyd am ferched o bob gwlad a phob cyfnod, o Cleopatra i Simone Biles y gymnastwraig, ac o bob maes, o fale i fathemateg, o fyd rasio i wleidyddiaeth, o gerddoriaeth i ffiseg. I gyd-fynd phob stori ceir portread trawiadol newydd, ynghyd dyfyniad a manylion bywgraffiadol am bob unigolyn. Ar ddiwedd y gyfrol ceir lle i berchennog y llyfr ysgrifennu ei hanes ei hunan a llunioi hunanbortread. Rhywbeth at ddant pawb, felly, ac er bod y straeon yn ddigon syml i blant iau allu eu mwynhau (o tua 6 neu 7 oed), does yna ddim byd syml am neges y llyfr, sydd yn ysbrydoliaeth i ferched o bob oedran. Maer fath gyfoeth ymchwil yn sail ir prosiect fel y bydd pawb yn elwa or adnodd newydd hwn. Yn wir, dynar unig broblem wela i gydar llyfr: maen bwysig i bawb ei ddarllen, yn fechgyn a dynion yn ogystal merched. Yn gwbl groes i lyfrau syn arfer targedu merched, does yma ddim pinc na blodau na chalonnau ar gyfyl y lle. Dyma chwa o awyr iach ich silff lyfrau. Heather Williams Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council -- Cyngor Llyfrau Cymru